Picture of a judge's wigThe Judge RANTS!Picture of a judge's wig



Dyddiad: 30/08/12

Allan

England flag indicating that there's an English translation of this piece

Rhyddhawyd Jamie Bevan o garchar Prescoed y bore 'ma ar ôl treulio dros pythefnos yn gaeth am fynnu ei hawliau fel Cymro Cymraeg. Bu oedi gan y swyddogion gan nad oedd ganddynt y ffurflenni anghenrheidiol i'w adael allan yn Gymraeg, gan estyn holl hanes twpdra a styfnigrwydd Gwasanaeth Y Carchardai ymhellach. Yn y diwedd, penderfynwyd ei adael allan hebddynt.

Mae Jamie wedi cwyno'n ffurfiol i Gomisiynydd Yr Iaith ynglŷn â'r sefyllfa warthus yma, ac mae hi am gwrdd â fo a Chymdeithas Yr Iaith i drafod y mater. Hen, hen bryd, hefyd.

********

Out

Jamie Bevan was released from Prescoed prison this morning after spending over a fortnight in captivity for demanding his rights as a Welshman. There was a delay in letting him out because the officials didn't have the requisite forms to release him in Welsh, thus extending the whole trail of stupidity and stubborness of the Prison Service yet further. In the end, they decided to let him out without them.

Jamie has made a formal complaint to the Language Commissioner regarding this disgraceful state of affairs, and she wishes to meet with him and Cymdeithas Yr Iaith to discuss the mater. About time, too.